SL(6)358 – Reoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 2023

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 2023 ("Rheoliadau 2023") yn gwneud diwygiadau amrywiol i ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu cyllid myfyrwyr.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (“y Prif Reoliadau), sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr sy'n amodol ar incwm yng Nghymru a Lloegr.

Mae Rheoliad 2(2) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gostyngiad dros dro yn y gyfradd llog ar fenthyciadau cynllun 2 (israddedig) a bennir yn rheoliad 21A a chynllun 3 (benthyciadau gradd ôl-raddedig) a bennir yn rheoliad 21B o'r Prif Reoliadau. Bydd y gostyngiad dros dro yn y gyfradd llog hefyd yn gymwys i fenthyciadau cynllun 5 (israddedig) newydd (gweler rheoliad 21C o’r Prif Reoliadau), a fydd yn cael ei gyhoeddi mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar 1 Awst 2023 neu ar ôl hynny. Pennir y gyfradd llog ar 7.1% ar gyfer y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mehefin 2023 ac sy’n gorffen ar 31 Awst 2023. Ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y gyfradd llog yn dychwelyd i'r cyfraddau gwreiddiol a bennir yn y Prif Reoliadau.

Mae Rheoliadau 2023 hefyd yn mewnosod fformiwla newydd ar gyfer cyfrifo'r gyfradd ar gyfer rhandaliadau sefydlog sy'n berthnasol i fenthyciadau cynllun 3 (ôl-raddedig). Gwneir diwygiadau technegol pellach hefyd i’r Prif Reoliadau.

Yn ogystal, mae Rheoliadau 2023 yn gwneud diwygiadau technegol pellach ar sail Lloegr yn unig mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth penodol i Loegr yn unig.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. Gall Senedd y Deyrnas Unedig hefyd ddirymu'r Rheoliadau, yn unol â'r rheolau ar gyfer dirymu sy'n gymwys i Senedd y Deyrnas Unedig.

Craffu Technegol

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, felly mae’r Rheoliadau: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron y Senedd a Senedd y DU. O ganlyniad, gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

“As the Regulations will be subject to UK Parliamentary scrutiny, it is not considered reasonably practicable for this instrument to be made or laid bilingually. Therefore, the 2023 Regulations are made in English only.”

Rhinweddau: craffu    

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

"No consultation has been undertaken."

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na chafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei wneud mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“In line with the policy set out in the Welsh Ministers’ code of practice for carrying out regulatory impact assessments for subordinate legislation, an RIA has not been produced.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

16 Mai 2023